Celfyddydau awyr agored yng Nghymru.

 

Mae celfyddydau awyr agored yng Nghymru yn fywiog ac ar ei dyfiant. O theatrau radical a syrcasau o’r radd flaenaf, i sioeau goleuni a sain rhyngwladol hynod boblogaidd a gŵyl deithiol fwyaf Ewrop, gallwch ddod o hyd i gelfyddydau awyr agored yng Nghymru ar eich stryd, yn eich marchnad, canol y ddinas, y parc cenedlaethol, ar y mynyddoedd a’r traethau.

Ar un llaw mae’n cofleidio’r agosatrwydd o’r cyfle prin o ddod wyneb yn wyneb â’r cwmni theatr bach ond gwych, Kitsh n Sync ar gornel stryd ym Mangor yng Ngŵyl Syrcas Pontio a gynhelir ddwywaith y flwyddyn; ar y llaw arall, mae’r ‘Ar Waith Ar Daith’ cenedlaethol ym Mae Caerdydd, â’i gyfranogiad torfol gwych i ddathlu deng mlynedd o Ganolfan Mileniwm Cymru.

Mae Celfyddydau Awyr Agored yng Nghymru yn cynnwys cyfoeth o ddawn Cymru o’r theatr, dawns draddodiadol a chyfoes, cerddoriaeth a phypedwaith, i gomedi, pyrotechneg, syrcas, a chelfyddyd weledol a digidol.

Gan gydweithio â byrddau twristiaid, canolfannau tref, rheolwyr tir a sefydliadau treftadaeth, mae’n cynnig cyfle unigryw a grymus ar gyfer anturiaethau creadigol newydd, i arddangos a dathlu rhyfeddodau Cymru.

Skip to main content